Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
5 Chwefror 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14835
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofynnwyd y cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar newidiadau i bolisi diogelwch ysgolion wedi i'r achos ddod i ben ynglŷn â'r ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman?
Atebwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad o ran y sefyllfa sydd wedi arwain at gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heb rybudd?
Am 15.48, cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn er mwyn ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill mewn cyfraniadau yn ystod ei Chwestiwn Amserol.
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn cyhoeddi adolygiadau diwylliannol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad am - Mis Hanes LHDT+ (Chwefror).
Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Wythnos Iechyd Meddwl Plant (3-9 Chwefror).
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8815 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Y Pedwerydd adroddiad ar bymtheg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Ionawr 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
54 |
1 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8724 Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o ddata gofalwyr di-dâl yn cael eu rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; a
d) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
22 |
2 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM8817 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Y Cyflenwad o dai cymdeithasol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8818 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan gynnwys hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a chrefydd a diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad ar staff a myfyrwyr, ar yr economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol cynyddol yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a newidiadau i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i gyfrifoldeb datganoledig, strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a gosod y sector ar sail ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad effaith o'r cynlluniau i gau'r ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad o'r pwysau ariannol sy'n wynebu Prifysgolion Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
43 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a) sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol Caerdydd i:
a) sicrhau bod egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
14 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.44
Dechreuodd yr eitem am 18.47
NDM8811 Hefin David (Caerffili)
Technolegau hedfan y dyfodol: sut allwn fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd am dwf tra hefyd yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd?
Daeth y cyfarfod i ben am 19.10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Chwefror 2025